Monday, September 20, 2021

eFwletin HSE Cymru / HSE Wales eBulletin

Having trouble viewing this email? View the content as a web page.

  HSE Header image

eFwletin Cymru / 

HSE Wales eBulletin

 
 

eFwletin HSE Cymru / HSE Wales eBulletin

Cyhoeddwyd: 20 Medi 2021 / Issued: 20 September 2021

Mae'r e-Fwletin hwn yn cynnwys manylion yn ymwneud â'r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020 ac yn cynnwys gwybodaeth ar PPP ym Mhrydain Fawr yn unig. / This eBulletin includes details relating to the Official Controls (Plant Protection Products) Regulations 2020 and contains information on PPP in Great Britain only.

Welsh flag  
 

Y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020 canllawiau a ffurflen hysbysu

Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (OCR) yr UE yn ceisio gwella diogelwch porthiant a bwyd, iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd planhigion trwy weithredu rheoliadau swyddogol ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd amaeth.

Mae'r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020 yn gweithredu'r OCR ar gyfer cynnyrch diogelu planhigion (PPPs) ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban). Maent yn cyflwyno gofyniad newydd ar gyfer gweithredwyr ar draws y gadwyn gyflenwi PPP i hysbysu eu hawdurdod cymwys. Yn Lloegr yr Ysgrifennydd Gwladol yw hyn. Yng Nghymru a'r Alban, y Gweinidogion Cymreig ac Albanaidd yw hyn.

Darllenwch fwy yn y datganiad polisi hwn.

Rhaid i weithredwyr gwblhau hysbysiad os byddant yn mewngludo, gweithgynhyrchu, prosesu neu ddosbarthu PPPs a awdurdodwyd ar gyfer defnydd proffesiynol, cymhorthion neu gynhwysion PPP; yn cynnwys sylweddau actif, diogelwyr, synergyddion a chyd sylweddau.

Mae yna broses hysbysu unigol ar gyfer Prydain Fawr a weithredir gan DEFRA, a fydd yn casglu gwybodaeth ar ran y tri awdurdod cymwys.

Bydd angen i weithredwyr eraill, yn cynnwys defnyddwyr proffesiynol PPPs, ddilyn proses debyg yn y dyfodol. Nid oes raid iddynt gofrestru nawr. Fe ddarperir rhagor o wybodaeth yn ystod y misoedd i ddod.

Mae canllaw ar sut i hysbysu bod eich busnes yn mewnforio, gweithgynhyrchu, prosesu, dosbarthu neu werthu cynnyrch diogelu planhigion proffesiynol wedi ei gyhoeddi ar GOV.UK.

I hysbysu – dylai gweithredwyr gwblhau'r ffurflen syml sydd nawr ar gael ar GOV.UK.

Dylai gweithredwyr lawrlwytho'r ffurflen ac fe ofynnir iddynt ddarparu manylion y cwmni a gwybodaeth cysylltu, mathau o gynnyrch, storfa a chapasiti.

Ar gyfer unrhyw help â chwestiynau cysylltiedig, anfonwch e-bost at defra.helpline@defra.gov.uk. Dylech labelu eich ymholiad yn glir gyda 'cynnyrch diogelu planhigion – rheoliadau swyddogol' i helpu sicrhau bod eich ymholiad yn cyrraedd y tîm priodol.

Y dyddiad cau ar gyfer hysbysiad yw 22 Medi 2021.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r e-Fwletin hwn, cysylltwch â ni.

 

 

 

The Official Controls (Plant Protection Products) Regulations 2020: guidance and notification form

The EU Official Controls Regulation (OCR) aims to improve feed and food safety, animal health and welfare and plant health by applying official controls throughout the agri-food supply chain.

The Official Controls (Plant Protection Products) Regulations 2020 apply the OCR to plant protection products (PPPs) in Great Britain (England, Scotland and Wales). They introduce a new requirement for operators throughout the PPP supply chain to notify their competent authority. In England this is the Secretary of State. In Wales and Scotland this is the Welsh and Scottish Ministers.

Read more in this policy statement.

Operators must complete a notification if they import, manufacture, process, distribute PPPs authorised for professional use, adjuvants or PPP ingredients; including active substances, safeners, synergists and co-formulants.

There is a single notification process for Great Britain operated by DEFRA, which will collect information on behalf of all three competent authorities.

Other operators, including professional users of PPPs, will need to follow a similar process in future. They do not need to register now. More information will be provided over the coming months.

Guidance on how to notify that your business imports, manufactures, processes, distributes or sells professional plant protection products has been published on GOV.UK.

To notify – operators should complete the simple form that is now available on GOV.UK. 

Operators should download the form and will be asked to provide company details and contact information, product types, storage and capacity.

For help with any related questions please email defra.helpline@defra.gov.uk. You should clearly label your query 'plant protection products – official controls' to help your enquiry be allocated to the right team.

The deadline for notification is 22 September 2021.

If you have any questions relating to this eBulletin, please contact us.

 

 

 

 

 
 


Information on health and safety at work in Wales is available on HSE's website
This bulletin provides a sample of the wide range of information that can be found under 'What's New' on HSE's website
Please feel free to use this information and pass it on, using your own networks.
 
 

Subscriber services:

Manage Preferences | Unsubscribe | Disclaimer
Email was sent to ooseims.archieves@blogger.com

www.hse.gov.uk

 

Health and Safety Executive - 5N1 Redgrave Court, Merton Road, Bootle, Merseyside L20 7HS

No comments:

Post a Comment